Skip to main content

Diogelu plant yng Nghonwy - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae diogelu’n ymwneud ag amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod ac addysgu’r bobl o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon.
Un o egwyddorion pwysicaf diogelu yw bod diogelu’n gyfrifoldeb ar bob un ohonom. Mae’n rhaid i bob gweithiwr proffesiynol a sefydliad wneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod plant ac oedolion sydd mewn perygl yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Os ydych yn gwybod am blentyn neu oedolyn sydd mewn perygl o gam-drin neu yn cael ei gam-drin, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod i’r cyngor neu’r heddlu.
Os yw'r unigolyn mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch yr heddlu ar unwaith ar 999. Os nad yw mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch y Gwasanaethau Cymdeithasol cyn gynted â phosibl i rannu eich pryderon.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu a ni yn uniongyrchol

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog mewn ieithoedd arall

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol  Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad



Dulliau cysylltu

Ffôn: 01492 575111(Dydd Llun i ddydd Gwener 9am tan 5pm)

Ebost: duty@conwy.gov.uk

Rhif ffôn allan o oriau gwaith: 0300 123 3079

Cyfryngau cymdeithasol

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

Os dymunwch wneud ymholiad, neu os ydych chi’n pryderu ynglŷn â diogelwch plentyn, cysylltwch â ni da chi ar 01492 575111 yn ystod oriau swyddfa (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm) neu 0300 123 3079 unrhyw adeg arall.

Back to top