Cylch Ti A Fi Emaus (Penuel) - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 0 misoedd a 2.5 blynyddoedd. Holwch am rhagor o wybodaeth.
Beth rydym ni'n ei wneud
Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu.
Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd plant yn cael y cyfle i:
- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae gyda theganau
- dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau
- chwarae gyda chlai; crefftau
- mwynhau eu hunain!
Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Babis a phlant o dan 4 oed gyda eu rhiant/gwarchodwr
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
£2 y teulu - Yes
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Festri Eglwys Emaus
Lôn y Cariadon
Bangor
Gwynedd
LL57 2TE
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01248 364 843
Ebost: tiafiemaus@gmail.com
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Instagram
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Parcio hygyrch
Croeso i fwydo ar y fron
Cyfleusterau newid babanod
Amserau agor
Bore Iau tymor ysgol yn unig 9.15-10.45.
Plant 0-4 oed gyda rhiant/warchodwr
£2 y teulu