Gwasanaeth Ieuenctid Ceredigion - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'r Gwasanaeth Ieuenctid yng Nghymru yn cyfeirio at y fframwaith cyflawni gwaith ieuenctid a wneir yn bennaf gan awdurdodau lleol, sefydliadau ieuenctid gwirfoddol cenedlaethol a lleol, gyda'r ddau sector yn aml yn cydweithio'n agos. Mae gwaith ieuenctid yn rhan o Wasanaethau Cymorth Ieuenctid ehangach, y mae’n rhaid i awdurdodau lleol eu darparu ar gyfer pobl ifanc yn eu hardal.
Mae gwaith ieuenctid yn cynnwys addysg a datblygiad cymdeithasol a phersonol, pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed ac fe'i cyflwynir mewn amrywiaeth o leoliadau gan gynnwys clybiau ieuenctid, lleoliadau preswyl, canolfannau gwybodaeth, canolfannau cyngor a chwnsela, ar y strydoedd ac mewn gwahanol leoliadau cyhoeddus lle mae pobl ifanc yn cyfarfod a thrwy brosiectau arbennig testun-benodol ac ati (Gwasanaeth Ieuenctid - CLlLC).
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Fel gwasanaeth, rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o wasanaethau a sefydliadau partner yng Ngheredigion, ar draws y rhanbarth ac yn genedlaethol i ddarparu gweithgareddau cyffredinol i bobl ifanc 11-25 oed. Mae gennym dîm o weithwyr ieuenctid, gweithwyr cymorth ieuenctid, cydlynwyr a swyddi eraill sy'n cyflwyno darpariaeth i bobl ifanc a'u teuluoedd. Rydym hefyd yn darparu mwy o gymorth wedi’i dargedu lle mae ei angen.
Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog
- Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
- Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/resident/wellbeing-and-care/support-for-children-young-people-and-families/ceredigion-youth-service/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01545 570881
Ebost: clic@ceredigion.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
X
Hygyrchedd yr adeilad