Cylch Ti A Fi Llanuwchllyn a Criw Eirys - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 0 misoedd a 2.5 blynyddoedd. Ymholwch am fwy o wybodaeth.
Beth rydym ni'n ei wneud
Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu.
Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd plant yn cael y cyfle i:
- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae gyda theganau
- dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau
- chwarae gyda dŵr a chlai; a
- mwynhau eu hunain!
Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Cylch Ti A Fi Llanuwchllyn
Neuadd Bentref
Bala
Gwynedd
LL23 7TW
Dulliau cysylltu
Ebost: cylchmeithrinllanuwchllyn@hotmail.com
Cyfryngau cymdeithasol
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Iau 9.30 yb - 11.30 yp
£2.00 y plentyn/babi