Tîm Cynhwysiant - presenoldeb, addysg yn y cartref, ymgysylltu TTAY,PCA - Addysg
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'r Tîm Cynhwysiant yn rhan o'r gyfarwyddiaeth Dysgu a Sgiliau. Rydym yn cynnig cyngor, cymorth ac arweiniad ynghylch materion lles, presenoldeb, ymgysylltu a chynhwysiant i ddisgyblion, rhieni, ysgolion ac asiantaethau perthnasol eraill. Mae dyletswyddau statudol yn cynnwys gorfodi presenoldeb trwy'r broses gyfreithiol h.y. erlyn pan nad yw ymyrraeth yn gwella sefyllfa, darparu cyngor ac arweiniad o ran Cyflogaeth Plant (rhoi trwyddedau gwaith), Plant mewn Adloniant h.y. Trwyddedu Perfformiad (rhoi trwyddedau perfformiad) a thrwyddedu Hebryngwyr.
Nod y Gwasanaeth yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn y Fro yn gallu cyflawni eu potensial addysgol.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Plant ysgol statudol, h.y. y rhai 5 i 16 oed, a’u rhieni/gofalwyr yn ogystal â gweithwyr proffesiynol ac ysgolion cysylltiedig eraill.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Oes. Gall rhieni, ysgolion ac asiantaethau perthnasol wneud cyfeiriadau.
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Vale Of Glamorgan Council
Civic Offices
Holton Rd
Barry
CF63 4RU
Gwefan
https://www.valeofglamorgan.gov.uk/cy/Index.aspx
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01446 709113
Ebost: Inclusionteamreferrals@valeofglamorgan.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Instagram
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Parcio hygyrch
Dolen glyw
Lifft
Drysau awtomatig
Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
Amserau agor
Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5.00pm a dydd Gwener 8.30am i 4.30pm