Teulu Môn - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd yw Teulu Môn.
Gwasanaeth sy’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â Phlant, a theuluoedd sydd â phlant, rhwng 0-25 oed.
Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn a gallwn roi cymorth i chi os ydych:
Yn chwilio am ofal plant neu’n meddwl dechrau gweithio fel gofalwr plant proffesiynol.
Eisiau gwybodaeth am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal.
Angen cyngor ar sut i helpu teulu sydd angen cefnogaeth ychwanegol, oherwydd bod teulu wedi chwalu, pryderon yn ymwneud â thai, problemau ariannol neu brofedigaeth.
Eisiau cymorth ar gyfer teulu sy’n wynebu problemau yn yr ysgol, oherwydd anabledd yn y teulu, beichiogrwydd yn yr arddegau, cam-drin alcohol a
chyffuriau.
Eisiau siarad am bryder sydd gennych am lesiant neu niwed posibl i blentyn
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ynys Môn (FIS) - Blant, teuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae'r gwasanaeth ar gael I unrhyw un
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Swyddfeudd y Cyngor
Cyngor Sir Ynys Mon
Llangefni
Anglesey
LL77 7TW
Gwefan
http://www.ynysmon.gov.uk/iechyd-a-gofal/gofal-i-blant-a-theuluoedd/teulu-mn?redirect=false
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01248 725888
Ebost: Teulumon@ynysmon.llyw.cymru
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Facebook
Facebook
X
X
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Llun: 9:00yb - 5:00yp
Mawrth: 9:00yb - 5:00yp
Mercher: 9:00yb - 5:00yp
Iau: 9:00yb - 5:00yp
Gwener: 9:00yb - 5:00yp
Sadwrn: Wedi cau
Sul: Wedi cau