Skip to main content

Paid Cyffwrdd — Dweud! Paid Yfed — Meddylia! - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Ariennir rhaglen Paid Cyffwrdd – Dweud! Adferiad gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru. Darparwn wybodaeth ataliol i bob ysgol gynradd ar draws Gogledd Cymru a byddwn, yn fuan, yn cynnwys ysgolion Powys hefyd. Mae’r ysgolion yn derbyn y sioeau hyn bob tair blynedd, gan sicrhau fod pob plentyn oed cynradd yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad i’r ddwy sioe. Darparwn sioeau proffesiynol sy’n ymgorffori perfformiad gyda negeseuon cadw’n ddiogel pwysig iawn. Mae hyn yn galluogi plant ifanc i wneud dewisiadau gwybyddus ynghylch cadw eu hunain yn ddiogel heb i’r sesiwn godi ofn neu achosi pryder. Fel perfformwyr proffesiynol, gall y tîm ddarparu’r un sioe yn effeithiol i wahanol grwpiau oedran, gan osod y sioe ar gyfer pob lefel.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r gwasanaeth yn cyflwyno dwy neges, ‘Paid Cyffwrdd – Dweud!’ ar gyfer disgyblion ieuengach a ‘Paid Yfed – Meddylia!’ ar gyfer disgyblion hŷn. Mae’r negeseuon hefyd yn cynnwys llinellau cyffuriau a fêpio. Mae’r holl sioeau wedi eu gosod i’r cwricwlwm cenedlaethol gydag adnoddau sy’n cynnwys y chwe ardal dysgu. Gall ysgolion ddewis i gael sioeau yn y Gymraeg, Saesneg, neu’n ddwyieithog. Mae’r holl berfformwyr yn rhai proffesiynol ac yn cynnwys consurwyr, tafleiswyr a storïwyr.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae Paid Cyffwrd - Dweud yn wasanaeth sy'n cael ei ariannu'n llawn ar gyfer pob awdurdod lleol yn ysgolion cynradd Gogledd Cymru, gan ddileu'r angen am atgyfeiriadau.

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad



Dulliau cysylltu

Ffôn: 01492 523 045

Ebost: donttouchtell@adferiad.org

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook

LinkedIn

Instagram

YouTube

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

A ddarperir mewn ysgolion yn ystod y tymor

Back to top