Skip to main content

Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Sefydlwyd Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn 2017 i uno ac arwain y gwaith o ddatblygu'r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol mawreddog a hirsefydlog, sef Band Pres Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Côr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru a Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Mae pob un o'n cyrsiau preswyl yn dod â phobl ifanc angerddol sy'n rhannu'r un diddordebau o bob cwr o Gymru at ei gilydd i ddatblygu eu sgiliau a'u technegau creadigol drwy raglenni hyfforddi dwys, dynamig a hwyliog dan arweiniad artistiaid sydd wedi cael clod rhyngwladol, gyda pherfformiadau cyffrous i gloi'r cyrsiau.

Mae ein haelodau yn magu hyder newydd ac yn ehangu eu gorwelion drwy ddysgu mewn amgylchedd proffesiynol, ac yn cael blas heb ei ail ar y diwydiant i fireinio'r llwybr gyrfa o'u dewis yn ogystal â meithrin ymdeimlad cyfoethog o berthyn i gymuned gefnogol o ffrindiau gydol oes.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r rhai sy'n cael eu derbyn i fod yn aelodau am flwyddyn ar ôl clyweliad llwyddiannus yn cael hyfforddiant a chyfleoedd perfformio eithriadol gyda cyrsiau preswyl dwys a phleserus sy'n cael eu cynnal yn ystod gwyliau'r ysgol. Dim ond y cerddorion, actorion a dawnswyr ifanc mwyaf talentog sy'n cael eu dewis, ac mae llawer o gystadleuaeth. Fel corff sydd wedi ymrwymo i sicrhau mynediad a chynhwysiant i bawb, beth bynnag fo'u cefndir neu eu lleoliad, mae Bwrsariaeth CCIC yn sicrhau bod unigolion dawnus yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i gymryd rhan ac i ragori.

Yr ystod oedran arferol ar gyfer yr ensembles ieuenctid cenedlaethol yw rhwng 16 a 22 oed. Efallai y byddwn yn derbyn aelodau iau i'r ensembles os bydd doniau rhyfeddol ganddyn nhw.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Contact for more information - https://www.ccic.org.uk/cronfa-bwrsariaethau-ccic - Yes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae ceisiadau i CCIC yn agored i bobl sy'n byw yng Nghymru neu a aned yng Nghymru.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol?
     Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad

Gallwch ymweld â ni yma:

The Maltings
East Tyndall Street
Cardiff
Caerdydd
CF24 5EA



Dulliau cysylltu

Ffôn: 029 2280 7420

Ebost: nyaw@nyaw.org.uk

Ymholiad gwe: https://www.ccic.org.uk/

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook

X

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

Monday - Friday 09:00am - 16:00pm

Back to top