Dechrau'n Deg Ceredigion - Helpu Fi, i Helpu Ti - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Helpu Fi i Helpu Ti yn Rhaglen 6 wythnos ar ffurf sesiynau dwy awr yr wythnos. Fe'i hwylusir gan ddau aelod o staff hyfforddedig. Mae'n gwrs rheoli hunangymorth, sy'n canolbwyntio ar nodau bychain sydd o fewn cyrraedd, a bennir bob wythnos gan rieni. Mae'r pynciau a drafodir yn cynnwys darganfod datrysiadau i broblemau a nodir gan rieni a'u rhannu yn gamau bychain cyraeddadwy. Mae'r materion a drafodir yn cynnwys bwyta'n iach, yr hyn y gallwn ei reoli a'r hyn na allwn ei reoli, derbyn yr hyn y gallwn ei wneud a'r hyn na allwn ei wneud. Byddwn yn archwilio rhai sgiliau ymwybyddiaeth ofalgar er mwyn dysgu sut i fod yn y foment er mwyn tynnu ein meddwl ac i fod yn y presennol.
#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cynigir y cwrs hwn i bob rhiant.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un sy'n byw yng Ngheredigion gysylltu â ni.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01545 570881(Clic Ceredigion )
Gwefan hawdd ei ddeall: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymort(Cymorth Rhianta a Teulu)
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Instagram
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun- Dydd Gwener: 9yb-5yp