Skip to main content

Cylch Ti A Fi Garn Bach Tryweryn - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin

Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 0 misoedd a 2.5 blynyddoedd. Holwch am rhagor o wybodaeth..


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y Cylch Ti a Fi yw cynnig cyfle i rieni a chynhalwyr gwrdd yn rheolaidd i fwynhau chwarae gyda'u plant a chymdeithasu.

Mae grwpiau Ti a Fi yn darparu gweithgareddau sy'n hyrwyddo datblygiad plant o'r adeg maen nhw'n cael eu geni hyd at oedran ysgol. Mae'n gyfle gwych i rieni/cynhalwyr gwrdd, cymdeithasu a rhannu profiadau mewn awyrgylch anffurfiol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd plant yn cael y cyfle i:

- fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau newydd
- mwynhau chwarae gyda theganau
- dysgu caneuon Cymraeg syml y mae modd i chi eu canu gyda'ch gilydd gartref
- gwrando ar straeon Cymraeg ac edrych trwy lyfrau
- chwarae gyda dŵr a chlai; a
- mwynhau eu hunain!

Fel rhiant neu gynhaliwr, bydd cyfle hefyd i chi fwynhau'ch hun. Mae croeso i bawb ddod i'r cylchoedd Ti a Fi, hyd yn oed os dydych chi ddim yn siarad Cymraeg neu os ydych chi'n dysgu Cymraeg. Dewch draw i'n gweld i gael rhagor o wybodaeth am fanteision siarad a dysgu Cymraeg, i chi a'ch plentyn.

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad

Gallwch ymweld â ni yma:

Cylch Ti A Fi Garn Bach Tryweryn
Safle Ysgol Bro Tryweryn
Frongoch
Y Bala
Gwynedd
LL23 7NT


Dulliau cysylltu

Ebost: garnbachtryweryn@gmail.com

Ffôn symudol : 07487524730

Cyfryngau cymdeithasol

Hygyrchedd yr adeilad

Toiledau hygyrch

Parcio hygyrch

Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

Croeso i fwydo ar y fron

Cyfleusterau newid babanod

Amserau agor

Dydd Llun 9.30 - 11.00
Dydd Iau (Sesiwn Sensori) 1.30 - 3.00
Ffi cofrestru - £3.00
Tal fesul sesiwn - £2.00

Back to top