Siarad Gyda Fi - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio tudalen ymgyrch ‘Siarad Gyda Fi’. Mae'n cynnwys adrannau i rieni ac ymarferwyr, gyda gwybodaeth ac adnoddau i helpu plant sy'n dysgu siarad. Bydd adnoddau’n cael eu diweddaru a’u hychwanegu wrth iddynt gael eu datblygu yn ystod yr ymgyrch.

Mae pob plentyn yn haeddu'r dechrau gorau mewn bywyd. Mae rhoi cymorth i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar yn gwneud gwahaniaeth i’w dyfodol. Mae sgiliau lleferydd, iaith a chyfathrebu yn bwysig ar gyfer llesiant a dysgu. Hebddynt, gall blant wynebu heriau ac anghydraddoldebau drwy gydol eu bywyd. Mae’r rhan fwyaf o blant yn datblygu sgiliau iaith heb broblemau. Maent yn gwneud hyn drwy chwarae a threulio amser gyda theulu a ffrindiau. Mae angen mwy o gymorth ar rai plant. Gallant gael hwn gan aelodau o’r teulu, ymarferwyr a phobl yn eu cymuned.

Rydym am ichi fod yn ymwybodol o bwysigrwydd lleferydd, iaith a chyfathrebu. Bydd hyn yn helpu plant Cymru i gael y cymorth iawn, ar yr adeg iawn, gan y bobl iawn.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni ac Ymarferwyr i helpu plant i siarad,

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhywun defnyddio'r adnodd yma

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad