Central Education Hub - Education Welfare Service - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Swyddogion Lles Addysg y gweithio’n agos gydag ysgolion a theuluoedd er mwyn datrys materion yn ymwneud â phresenoldeb. Maen nhw’n cefnogi plant a theuluoedd pan fydd disgyblion yn wynebu anawsterau yn yr ysgol neu pan fydd materion lles yn tarfu ar addysg plentyn. Bydd Swyddogion Lles Addysg yn ymchwilio i’r rhesymau dros absenoldeb o’r ysgol ac yn gallu rhoi cyngor i deuluoedd am wasanaethau cymorth arbenigol ac atgyfeirio at wasanaethau addas.
Yn ogystal â rhoi sylw i faterion yn ymwneud â phresenoldeb gyda disgyblion unigol a’u teuluoedd, mae gan Swyddogion Lles Addysg rôl hanfodol arall, sef gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion i hyrwyddo presenoldeb ar draws yr ysgol gyfan a lleihau absenoldebau parhaus. Mae llawer o Swyddogion Lles Addysg hefyd yn rhoi cyngor i ysgolion am les plant a diogelu plant mewn addysg. Fel arfer, bydd gan ysgolion Swyddog Lles Addysg penodol. Mae’r Swyddogion penodol hyn yn cefnogi’r ysgol wrth iddi roi sylw i faterion yn ymwneud â phresenoldeb
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gall ysgolion ofyn i’r swyddog i ymweld â chartref disgybl neu weld disgybl yn yr ysgol
Gall plant drafod problemau gyda’u Swyddog Lles Addysg
Gall rhieni ofyn am gymorth, cyngor neu gefnogaeth gan y Swyddog
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Anyone
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Yn aros am gadarnhad
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
- Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Torfaen County Borough Council
Civic Centre
NP4 6YB
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01495 762200
Ebost: EWS@torfaen.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Hygyrchedd yr adeilad