Rhaglen HENRY Teuluoedd Iach Ar-lein - rhieni a gofalwyr ym Merthyr, Rhondda a Pen-y-bont ar Ogwr - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae pawb eisiau’r gorau i’w plant, ond gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud fel rhiant yn y blynyddoedd cynnar. Dyna lle mae HENRY o gymorth.

Mae rhaglen HENRY Teuluoedd Iach: O’r Cychwyn Cyntaf pyn rhedeg yn lleol. Ymunwch â’r miloedd o deuluoedd ledled y wlad sydd wedi elwa o’r gefnogaeth a’r awgrymiadau y mae’n eu darparu i deuluoedd ifanc. Mae ymchwil yn dangos mai’r elfennau allweddol i sicrhau bod babanod a phlant ifanc yn cael dechrau iach mewn bywyd yw:
- Hyder wrth fagu plant
- Gweithgarwch corfforol i blant
- Beth mae plant a theuluoedd yn ei fwyta
- Arferion ffordd o fyw teulu
- Mwynhau bywyd fel teulu

Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r 5 thema hon dros 8 wythnos ac yn darparu popeth sydd ei angen arnoch i helpu i sicrhau bod eich plentyn yn cael dechreuad gwych.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r rhaglen ar gyfer rhieni neu ofalwyr plant rhwng 0 a 5 oed ym Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf a Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ymuno yn rhad ac am ddim.

Mae pawb eisiau’r gorau i’w plant, ond oherwydd bod cymaint o gyngor anghyson, gall fod yn anodd gwybod beth yw’r peth gorau i’w wneud fel rhiant, yn enwedig yn y blynyddoedd cynnar.

Os oes gennych o leiaf un plentyn o dan 5 oed ac yn rhoi ateb cadarnhaol i unrhyw un o’r cwestiynau isod, yna mae HENRY ar eich cyfer chi:
- Hoffech chi deimlo’n fwy hyderus fel rhiant?
- Hoffech chi gael cefnogaeth i roi dechrau iach i’ch plentyn?
- Ydych chi’n dymuno y byddai’ch plentyn yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau?
- Hoffech chi leihau straen amser bwyd?
- Hoffech chi fwynhau bod yn actif gyda’ch gilydd fel teulu yn amlach?
- Oes gennych chi ddiddordeb mewn syniadau i gael plant i ffwrdd o’r teledu?

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

I archebu lle cysylltwch â ni.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad