Mae'r adnodd hwn wedi'i rheoleiddio. (Mwy am Wasanaethau Rheoleiddiedig)
Mae'r darparwr wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu yn cyfatebol.
Cafodd y darparwr arolygiad ar: 11/11/2021.
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag wythnosol i blant o oedran 0 misoedd a 12 blynyddoedd.
Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 64 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 13 lle.
Mae Andi Pandi’s yn Feithrinfa Ddydd Breifat i Blant ac yn ddarparwr Gofal Ysgol Allanol yn Rhydaman, wedi’i sefydlu ers 2003 ac wedi’i gofrestru i ddarparu Gofal Dydd Llawn i uchafswm o 64 o blant. Ein nod yw cydnabod a gwerthfawrogi plant fel unigolion, adeiladu perthynas dda â hwy a’u teuluoedd a’u cynnwys ym mywyd y Feithrinfa er mwyn sicrhau ei bod yn diwallu eu hanghenion. Mae chwarae’n rhan hanfodol o fywyd pob plentyn ac rydym yn darparu awyrgylch cynnes a chartrefol gydag amgylchedd cyfeillgar a symbylol i hwyluso hyn. Mae gennym amrywiaeth eang o adnoddau i blant o enedigaeth hyd at ddeuddeg oed, gan helpu plant i ddysgu, datblygu a thyfu mewn amgylchedd diogel a sicr. Mae’r staff yn oedolion proffesiynol a ymroddedig, dwyieithog, sy’n cynnig gofal o safon. Rhaid i blant fod wedi’u cofrestru cyn y gallwch ddechrau archebu sesiynau drwy gwblhau contract, manylion iechyd a holiadur setlo. Mae’r feithrinfa wedi sicrhau contract gyda Dechrau’n Deg ar gyfer sesiynau gofal plant.
Plant o enedigaeth hyd at 12 oed.Darpariaeth gofal plant Dechrau’n Deg.Gofal Plant Di-drethSesiynau a ariennir gan Gynllun Gofal Plant
Gall unrhyw un sy’n dymuno’r gwasanaeth gysylltu’n uniongyrchol â ni.
Rydym ar gael: yr holl flwyddyn.
Gallwn darparu gofal cofleidiol.. Rydym yn cynnig gofal cynhwysol bore a phrynhawn i Feithrinfa Rhydaman, Ysgol Bro Banw a Parcyrhun.
Rydym yn gollwng/codi o'r ysgolion hyn:
15-17 Station RoadAmmanfordSA18 2DB