Tadau Gyda'n Gilydd - Y Grŵp tadau a babanod/plant bach - Libanus Lifestyle CIC (NP12 1EQ) - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Tadau Gyda'n Gilydd ydy y grŵp pwrpasol i dadau gyfarfod ac i gymdeithasu gyda thadau eraill, gan ddatblygu bondiau pwysig ac ystyrlon gyda’u plant.

Beth i’w ddisgwyl…
- Cyfleoedd i siarad â thadau sy’n rhannu’r un profiadau â chi
- Sesiynau seiliedig ar chwarae sy’n eich galluogi i dreulio amser o ansawdd gyda’ch plentyn
- Gwybodaeth ac arweiniad i gefnogi chi a’ch teulu
- Mynediad i sesiynau megis tylino babanod, chwarae synhwyraidd, cymorth cyntaf i fabanod a llawer mwy

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Tadau a'u babanod/plant bach hyd at 3 oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Mae pob sesiwn yn costio £2 y teulu gyda lluniaeth ac eitemau brecwast yn gynwysedig

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Pob tad a'u plant (plant hyd at 3 oed) - mynediad agored






Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Cynhelir y grŵp bob pythefnos, dydd Sadwrn 10am - 11am

Yn dechrau dydd Sadwrn 31 Mai 2025 yn Libanus Lifestyle CIC