Cynnig Gofal Plant- Sir y Fflint - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Er mwyn helpu rhieni sy'n gweithio i gael mynediad i ofal plant fforddiadwy, sydd ar gael ac yn hygyrch, gall pob teulu cymwys wneud cais am Gynnig Gofal Plant Llywodraeth Cynulliad Cymru, Sir y Fflint. Nodau’r Cynnig yw cynyddu’r twf economaidd, mynd i’r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldebau.  Gallwch wirio a ydych yn gymwys ar gyfer y Cynnig a chael ffurflen gais ar-lein ar wefan Cyngor Sir y Fflint, sef: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Schools/Childcare-Offer.aspx
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y Cynnig Gofal Plant, mae croeso i chi gysylltu â Tîm Cynnig Gofal Plant ar 03000 628 628.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Bydd y cynnig yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant ar gyfer plant 3 a 4 oed i rieni sy'n gweithio, am gyfnod o hyd at 48 wythnos y flwyddyn, mewn lleoliadau o ddewis y rhieni, yn amodol ar argaeledd.
Mae rhagor o wybodaeth a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gael o’r ddolen ganlynol:
www.llyw.cymru/cynnig-gofal-plant-cymru-ymgyrch
Mae’r cais hwn am ORIAU GOFAL PLANT y Cynnig Gofal Plant yn unig - i wneud cais am Oriau Addysg y Cyfle Cynnar gweler y Dudalen Cyllid Cyfle Cynnar.
Ar gyfer Derbyniadau Meithrin gweler y Dudalen Derbyniadau Ysgol.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
- Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Canolfan Blynyddoedd Cynnar Westwood
Stryd Tabernacl
Bwcle
CH7 2JT
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01352 703930
Ebost: fisf@siryfflint.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Oriau arferol swyddfa - dydd Llun i dydd Iau. 08:30-17:00, dydd Gwener 08:30- 16:30