Grŵp Rhianta Dechrau'n Deg Ceredigion - Diddyfnu / Maethiad / Bwydo Babanod - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn cynnig sesiynau rhianta defnyddiol, hwyliog a rhyngweithiol sy'n eich helpu chi i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Mae Dechrau'n Deg Ceredigion yn gweithio gydag amrywiaeth o gwasanaethau ar draws Ceredigion er mwyn cynnig amrediad o raglenni rhianta sy'n addas i anghenion unigol rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn grwpiau.
Diddyfnu a Maeth
Sesiwn, lle y byddwn yn sôn am ddechrau bwydo bwyd solet i'ch baban. Byddwn yn trafod pryd i ddechrau bwydo bwyd solet a pha fwyd i'w roi iddynt, sut i wneud hynny mewn ffordd ddiogel ac yn bwysicaf oll, sut i sicrhau bod hwn yn brofiad hwyliog a phleserus i'r teulu cyfan! Bydd hon yn sesiwn ryngweithiol er mwyn i ni gyd allu rhannu syniadau.
Yn ystod y sesiwn, mae'n cynnig cyfle i chi hefyd feithrin cyfeillgarwch gyda rhieni eraill sydd â babanod yr un oed.
Byddwch yn cael llyfryn Ffordd o Fyw Iach i gyd-fynd â'r sesiynau hefyd, yn llawn cyngor a ryseitiau teuluol i chi roi cynnig ar.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant Bwydo ar y Fron, felly os bydd angen unrhyw gymorth arnoch gyda Bwydo ar y Fron, cysylltwch â ni.
Am fwy o wybodaeth am y grŵp cysylltwch â ni.
.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un sy'n byw yng Ngheredigion gysylltu â ni.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Dulliau cysylltu
Ffôn: dechraundeg@ceredigion.gov.uk(Ebost)
Ffôn: 01545 570881(Clic Ceredigion )
Ymholiad gwe: http://www.ceredigion.gov.uk/resident/children-young-people-services/family-support-services/flying-
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun-Dydd Gwener 9yb-5yp