Cylch Meithrin Amlwch - Meithrinfeydd mewn ysgolion


Beth rydym ni'n ei wneud

Lleolir y Cylch o fewn adeilad yr ysgol gynradd, ac mae'n cynnwys ystafell fawr, awyrog, wedi'i haddurno'n dda ac wedi'i chynnal a'i chadw.

Caiff y cylch meithrin ei redeg gan staff cymwysiedig, cyfeillgar a chroesawgar sy’n rhoi blaenoriaeth i les ac hapusrwydd pob plentyn yn eu gofal. Rhoddir profiadau eang a chyfoethog iddynt yn ystod eu cyfnod yn y cylch meithrin.

Bydd y cylch yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau a phrofiadau sydd yn datblygu gwybodaeth y plant ym mhob maes o’r cwricwlwm Cyfnod Sylfaen. Mae amrywiaeth eang o deganau ac adnoddau ar gael i’r plant. Bydd themau pwrpasol yn cael eu cynllunio yn ystod y flwyddyn i symbylu awyrgylch ddeniadol i addysgu’r plant am amrywiol destunau.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Ceir mynediad i’r cylch pan mae plentyn yn ddwy oed a bydd plant tair oed yn cael cynnig pedwar sesiwn sydd wedi ei ariannu y tymor ar ôl iddynt gael eu pen blwydd yn 3. Mae gwasanaeth cofleidiol ar gael i nifer cyfyngedig (dros 3 oed). Mae’r cylch ar agor o 9:05 hyd at 11:35 dydd Llun i dydd Gwener ag 12.35 tan 3.05pm bob Ddydd Llun i Ddydd Iau.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes -
£7.50 y sesiwn / per session
£14.00 gofal cofleidiol / Wrap-around

Gofynnwn yn garedig iawn i chi dalu’r tâl yn wythnosol oni bai fod trefniadau penodol wedi eu cytuno gyda’r arweinydd. Fydd ffurflen yn gael ei rhoi i chi i ddweud os rydych am dalu gyda cash neu drwy’r bank ac hefyd os fyddwch yn hoffi talu yn wythnosol neu yn misol.

I gymryd rhan yn y Rhaglen Dechrau’n Deg, rhaid i chi fyw mewn ardal Dechrau’n Deg. Cysylltwch â ni i weld os ydy’ch cod post a’ch stryd wedi cael eu rhestru.

Ffôn: 01407 767 781
We : Dechrau'n Deg CYM

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni yn uniongyrchol.






Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Sesiwn Bore/Morning Session
Llun – Gwner – 9.05am – 15.05am – Monday – Friday
Gofal cofleidiol/ Wrap-around
Llun-Gwener 11.30 – 15.05 - Monday - Friday
Sesiwn Pnawn/Afternoon Session
Llun- Gwener 12.33 – 15.05 – Monday - Friday