Agored Cymru - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Agored Cymru yw'r corff dyfarnu o ddewis yng Nghymru gan ddarparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Yn wahanol i gyrff dyfarnu eraill, rydym wedi ymrwymo i ddatblygu talent yng Nghymru, i Gymru.

Rydym yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol, felly rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dysgwyr o bob oed a gallu yn gwneud y gorau o'u potensial.

Rydym yn cynnig dros 400 o gymwysterau gyda sicrwydd ansawdd sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol, mewn amrywiaeth eang o bynciau o Sgiliau Hanfodol i Ddadansoddi Data.

Rydym wedi ymrwymo i gefnogi a hyrwyddo Agenda Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru. Rydym yn falch o allu cynnig ein holl gymwysterau yn Gymraeg ac rydym wedi buddsoddi mewn datblygu cymwysterau Iaith Gymraeg.

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda dros 250 o ganolfannau ledled Cymru sy'n cynnwys ysgolion, prifysgolion, colegau, elusennau, cymdeithasau tai a busnesau i greu a darparu cymwysterau a dyfarnu credyd i ddysgwyr.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rydym yn rhoi'r cyfle i bobl o bob oed fanteisio ar ddysgu gydol oes, boed hwy mewn addysg amser llawn o hyd, yn gweithio, neu'n chwilio am waith.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu a ni'n uniongyrchol.






Cyfryngau cymdeithasol

  •   X

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

9am – 5pm (Llun – Iau)
9am – 4.30pm (dydd Gwener)