Beth rydym ni'n ei wneud
Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd (GGD) yn cynnig cyngor ac arweiniad dwyieithog a diduedd ynghylch amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gofal plant a chymorth i deuluoedd.
Mae hyn yn cynnwys cyngor am daliadau gofal plant a gweithio yn y sector gofal plant, gwybodaeth ar feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, clybiau tu allan i’r ysgol, cylchoedd meithrin a grwpiau riant a phlentyn. Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar gael i rieni, gwarchodwyr, cyflogwyr a gweithwyr proffesiynol ledled Sir Gaerfyrddin.
Cysylltwch a’r GGD am wybodaeth ar:
• Gofal plant sydd ar gael a’r cyfleusterau
• Datblygiad ac ymddygiad plentyn
• Gwasanaethau dysgu i’r teulu ac addysg
• Gwasanaethau ariannol a chyfreithiol
• Gwasanaethau lechyd a lles
• Cadw’n ddiogel
• Grwpiau cymorth i rieni a theuluoedd
• Cyfleusterau chwarae, chwaraeon a hamdden
• Gwasanaethau lleol a chenedlaethol i blant ac oedolion ag anableddau
. . . a llawer, llawer mwy
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Rhieni a Gofalwyr
Gweithwyr Proffesiynol
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un gysylltu â ni'n uniongyrchol.
Amserau agor
9:00am-17:00pm Dydd Llun-Dydd Iau
9:00am-16:30pm Dydd Gwener