Dawns i Bawb - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Dawns i Bawb yn sefydliad dawns yn y gymuned i Ogledd-Orllewin Cymru ac yn datblygu darpariaeth dawns dros Wynedd, Conwy ac Ynys Môn. Rydym yn cydweithio a chreu gyda phobl a chymunedau, ymarferwyr dawns amatur a proffesiynol, coreograffwyr a chwmniau. Rydym yn credu bod pawb yn gallu dawnsio ac yn parhau i ddadlau'r manteision o ddawns i'n cymunedau o fewn y cyd-destyn twf personol, iechyd a lles cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a chymunedol a hunaniaeth ddiwylliannol.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cynnal rhaglen ddawns o safon uchel a dwyieithog i gymunedau Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Gweithio gyda gwahanol grwpiau o bobl: rhieni a phlant bach, unigolion gydag anghenion arbennig, yr henoed, pobl ifanc mewn amgylchedd creadigol lle mae pob un yn gallu cymryd rhan, cyfranogi, mwynhau a datblygu sgiliau dawns.
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Cysylltwch am fanylion - Yes
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth
Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol?
Mae pob sesiwn yn addas i bob gallu Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Uned 2 Galeri
Doc Victoria
Caernarfon
LL55 1SQ
Gwefan
http://dawnsibawb.org/index.html
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01286 685220
Ebost: post@dawnsibawb.org
Ymholiad gwe: http://dawnsibawb.org/cysylltu.php
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Instagram
YouTube
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Llun-Gwener 9am-5pm