Skip to main content

Magu Plant. Rhowch amser iddo - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae’r wefan hon wedi’i datblygu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth sawl sefydliad a gweithiwr proffesiynol, gan gynnwys seicolegwyr, ymwelwyr iechyd, academyddion ac arbenigwyr ar rianta.
Dim dweud wrth rieni beth i’w wneud yw’r bwriad, ond cynnig gwybodaeth ymarferol, cyngor a gweithgareddau rhianta. Mae’r wybodaeth ar gyfer rhieni, o enedigaeth y plentyn tan ei fod yn 13+ oed.
Mae pob plentyn a rhiant yn unigryw ac nid gosod cyfres gaeth o reolau ar fagu plant yw bwriad y wefan hon. Ei nod yw rhoi syniadau i rieni er mwyn iddyn nhw allu gwneud penderfyniadau am yr hyn a fyddai’n gallu gweithio i’w plant a’u teulu nhw. Mae’n ceisio helpu rhieni i feithrin perthynas gadarnhaol ac iach gyda’u plant.

Gwybodaeth gyffredinol am rianta yw’r wybodaeth sy’n cael ei darparu, a does dim bwriad iddi gymryd lle cyngor proffesiynol. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am ddatblygiad neu ymddygiad eich plentyn, gofynnwch i’ch meddyg teulu neu ymwelydd iechyd am gyngor.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r wefan ar gyfer mamau, tadau, neiniau a theidiau, llysrieni, rhieni nad ydyn nhw’n byw gyda’r plant ac unrhyw un arall sy’n gyfrifol am fagu plant.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un ddefnyddio'r adnodd hwn.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol  Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad



Dulliau cysylltu

Ymholiad gwe: http://giveittime.gov.wales/about/?lang=en

Cyfryngau cymdeithasol

Facebook

Instagram

Hygyrchedd yr adeilad

Back to top