Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru yn sefydliad elusennol sy'n darparu cefnogaeth i unrhyw un sy'n dioddef cam-drin yn y cartref yn ardal Ceredigion. Rydym yn darparu pecyn cymorth wedi'i deilwra i bob unigolyn yr ydym yn ei gefnogi. Mae'r ystod o wasanaethau cymorth a ddarparwn yn cynnwys:
- Lloches a Tai Diogel.
- Cefnogaeth yn y gymuned ac yn eich cartref eich hun trwy Gymorth Symudol.
- Rhaglenni i hybu hyder a hunan-barch, yn ogystal â deall arwyddion camdriniaeth er mwyn osgoi perthynas ymosodol ymhellach.
- Rhaglenni i hyrwyddio sgiliau pobl i wirfoddoli, addysg neu weithio.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Ar gyfer menywod, dynion, a phlant a phobl ifanc.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un defnyddio'r gwasanaeth.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Gwener: 9yb tan 5yp