Nod y gwasanaeth hwn yw galluogi pobl ifanc 16 oed a hŷn i wneud penderfyniadau gwybodus ar eu taith tuag at fod yn annibynnol, drwy roi’r profiadau ymarferol, y cyfleoedd i feithrin sgiliau a’r cymwysterau i bobl ifanc. Bydd y rhain yn dangos eu bod yn barod ar gyfer y llwybr o’u dewis, gan leihau nifer y tenantiaethau sy’n methu ymhlith pobl ifanc agored i niwed.
Mae’r gwasanaeth yn darparu profiad o fyw mewn fflat hyfforddi a chymorth byw’n annibynnol, yn ogystal â sgiliau bywyd un i un i bobl ifanc rhwng 15 a 25 oed sy’n byw mewn gofal, yn lled-annibynnol neu’n annibynnol.
Nac oes
Gellir atgyfeirio’n uniongyrchol at y gwasanaeth drwy weithiwr allweddol, cynghorydd personol neu weithiwr cymdeithasol.
https://www.barnardos.org.uk/what-we-do/services/barnardos-swansea-transition-and-training-flat-service