Barnardo's Bloom: Abertawe - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Nod y gwasanaeth yw hyrwyddo, diogelu a gwella hawliau pobl ifanc i’w helpu i bontio’n llwyddiannus i fod yn oedolion a’u grymuso i gael eu clywed a lleihau unigrwydd a gorbryder, datblygu sgiliau, hyder a hunan-barch i helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.
Mae tair elfen graidd i’r prosiect, sef hyfforddiant bywyd, clwb gweithgareddau, a chymorth cyfeillio. Mae hyfforddiant yn rhoi’r pŵer i bobl ifanc ddatgloi eu potensial eu hunain ar gyfer newid cadarnhaol, drwy roi’r adnoddau iddynt feithrin cydnerthedd, gwella lles a deall eu hunain yn well. Mae hyfforddi yn grymuso pobl ifanc i feddwl a symud ymlaen yn gadarnhaol yn eu bywydau, drwy greu a gweithio tuag at nodau penodol.
Bydd gwirfoddolwyr yn helpu gyda gweithgareddau a darparu mentor i oedolion lle mae hyn yn cael ei ystyried yn fwy priodol. Aelodau o’r gymuned leol sy’n cynnig y gwasanaeth cyfeillio gan darparu cymorth parhaus i bobl ifanc agored i niwed sy’n symud ymlaen i fod yn annibynnol ar y system ‘derbyn gofal’.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r gwasanaeth yn gweithio gyda phobl ifanc 18 - 25 oed a hŷn sy’n gadael gofal lle mae llai o wasanaethau ac adnoddau ar gael i gefnogi’r grŵp hwn o bobl ifanc agored i niwed.
Mae’r gwasanaeth hefyd yn cynnig cyfleoedd rheolaidd i bobl ifanc ddod at ei gilydd i brofi gweithgareddau nad yw’n hawdd i bobl ifanc sy’n gadael gofal eu defnyddio, ochr yn ochr â digwyddiadau grŵp a chlybiau rheolaidd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall pobl ifanc hunanatgyfeirio, a gall gweithwyr proffesiynol atgyfeirio’n uniongyrchol at y tîm.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad