Grantiau Amser i Ofalwyr Iechyd Meddwl - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Amser yn cefnogi gofalwyr di-dâl i gael mynediad i seibiannau byr creadigol, hyblyg sydd wedi eu personoleiddio. Bydd yn darparu seibiannau byr sy’n gwella gwytnwch a llesiant y gwirfoddolwyr ac yn cefnogi cynaladwyedd perthynas ofalu’r gofalwr. Mae Amser yn rhan o’r Cynllun Seibiannau Byr ar gyfer gofalwyr di-dâl ac yn anelu i alluogi 30,000 o ofalwyr i gymryd seibiant o ofalu erbyn 2025. Mae’r grantiau Amser yn rhoi’r cyfle i ofalwyr i f laenoriaethu eu llesiant ac i gymryd seibiant o’u rôl gofalu. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae’r grantiau a roddwyd yn cynnwys diwrnodau spa, aelodaeth i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, teithiau theatr a gweithdai crochenwaith. Dywed y staff fod cael y grant o fudd enfawr i ofalwyr. Mae’n ein galluogi i gynnig seibiant sydd wir ei angen i ofalwyr pan maent yn cael trafferth neu wedi blino’n lân. Teimlai gofalwyr yn aml nad oes unrhyw gymorth ar gael, felly pan allwn ni gynnig y grant yma, mae’n gwneud gwahaniaeth enfawr iddynt.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae Adferiad yn darparu cyfleoedd seibiannau byr Amser i ofalwyr sy’n oedolion sy’n byw ym Mhenybont, Caerdydd, Sir Gâr, Sir Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Môn ar ran Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a Llywodraeth Cymru.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gofalwyr sy’n gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl ac sy’n byw yn Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Dinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Sir Fynwy, Sir Benfro, Bro Morgannwg, Wrecsam ac Ynys Mon yn gymwys ar gyfer y gwasanaeth hwn. Cysylltwch â Chyd-gysylltydd Amser Adferiad gan i wneud cais. Dylech gofio nad yw eich hawl i gael cymorth trwy Amser yn cael ei gyfyngu os ydych yn derbyn budd-daliadau eraill, megis y Lwfans Gofalydd neu unrhyw fudd-dal prawf modd arall.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes





Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad