Cyngor a Chymorth I Deuluoedd Caerdydd - Fideos hunangymorth


Beth rydym ni'n ei wneud

Cyngor a Chymorth i Deuluoedd Caerdydd ar gael i deuluoedd, rhieni, plant a phobl ifanc yng Nghaerdydd. Mae’r gwasanaeth yn ymgorffori:

Mae’r Porth i Deuluoedd yn fan cyswllt i unrhyw weithiwr proffesiynol, rhiant, plentyn neu berson ifanc i gael y wybodaeth, cyngor a chymorth sydd ei angen yng Nghaerdydd.

Helpu Teuluoedd - tîm o ymgynghorwyr cymorth i deuluoedd sy’n gysylltiedig â’r Porth i Deuluoedd a all weithio gyda theuluoedd yn y cartref ac yn y gymuned – gan gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar ystod o destunau.

Cymorth i Deuluoedd - Tîm o weithwyr proffesiynol amlddisgyblaethol yn cydweithio dros gyfnod hirach i ddod o hyd i’r ateb iawn i’r teulu. Bydd y tîm Cymorth i Deuluoedd yn gweithio â theuluoedd sy’n wynebu materion mwy cymhleth neu ddifrifol.

Rhianta 0-18 Caerdydd – Tîm o weithwyr rhianta proffesiynol a fydd yn gweithio gyda theuluoedd sydd angen cymorth rhianta i helpu i wella hyder rhianta, sgiliau, llesiant, gwydnwch a pherthnasau teuluoedd.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Yn darparu wasanaethau cymorth, cyngor a gwybodaeth cyfredol a newydd ynghyd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd trwy pwynt mynediad unigol, y Porth i Deuluoedd. Mae’r Porth yn cynnig llwybr atgyfeirio clir a hygyrch i unrhyw un â phryderon lles am blentyn neu sydd am ddysgu mwy am y cymorth sydd ar gael i deuluoedd.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall gweithwyr proffesiynol neu aelodau’r cyhoedd wneud atgyfeiriadau neu geisiadau am gymorth neu gyfeirio at wasanaethau.




 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

Po Box 1139
Caerdydd
CF11 1WS



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun - Dydd Iau 8.30am to 5.00pm
Dydd Gwener 8.30am to 4.30pm