Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cefnogwn unrhyw un sy’n cefnogi rhywun gyda phroblem iechyd meddwl yn Sir Gâr. Mae gennym grwpiau gofalwyr yn rhedeg yng Nghaerfyrddin (yn fisol) ac yn Llanelli (pob pythefnos) ble gall pobl gyfarfod gofalwyr eraill mewn amgylchedd ymlaciol i gymdeithasu ac i gael ychydig o amser seibiant o’u rôl gofalu dydd i ddydd.