Rhianta a Chefnogaeth i Deuluoedd Ceredigion- Rhaglen Feithrin ar Gyfer Rhieni - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'n helpu oedolion i ddeall a rheoli teimladau ac ymddygiad, ac i ymdrin yn fwy cadarnhaol ac ystyriol â phlant a gydag oedolion eraill. Mae’n cynnig ffordd o edrych ar berthynas a bywyd sy'n iach yn emosiynol i blant ac oedolion. 
Fel blociau adeiladu ar gyfer sgiliau iechyd emosiynol a sgiliau meithrin perthynas, mae gan y Rhaglen Feithrin bedair colofn:
• Hunanymwybyddiaeth 
• Disgwyliadau priodol 
• Disgyblaeth gadarnhaol
• Empathi
Mae’r rhaglen yn cwmpasu’r canlynol:
Deall pam fod plant yn ymddwyn fel maen nhw
Adnabod y teimladau y tu ôl i ymddygiad anodd
Ystyried gwahanol agweddau ar ddisgyblaeth
Dod o hyd i ffyrdd o gydweithio â phlant ac o ddatblygu hunanddisgyblaeth y plant
Pwysigrwydd pwyllo ac edrych ar ôl ein hunain.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r Rhaglen Feithrin ar gyfer Rieni yn addas ar gyfer rhieni sydd â phlant bach a phlant oed cynradd, ond mae'n addas ar gyfer pob oedran. 
Mae 10 sesiwn o ddwy awr gydag egwyl ar gyfer te/coffi. 
Gan fod y rhaglen yn adeiladu ar y sesiwn flaenorol, y peth gorau yw mynychu pob un o'r deg sesiwn gan fod y rhaglen yn dod ynghyd fel jig-so.
Cyflwynir y rhaglen mewn ffordd anffurfiol gyda grŵp o tua wyth o rieni. 
Agored i unrhyw deulu sy'n byw yng Ngheredigion ac sydd â phlentyn neu berson ifanc. Gallech fod yn rhiant, yn llysfam neu lystad, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu yn gofalu am blentyn.
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Agored i unrhyw deulu sy'n byw yng Ngheredigion ac sydd â phlentyn neu berson ifanc. Gallech fod yn rhiant, yn llysfam neu lystad, yn ofalwr neu'n aelod o'r teulu yn gofalu am blentyn. Gall unrhyw un cysylltu â ni
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Staff yn hyderus cefnogi pob teulu. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
 
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01545 570 881(Clic Ceredigion)
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Cysylltwch â ni: Dydd Llun - Dydd Gwener 9-5.