Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth i rieni plant rhwng 8 ac 17 oed ledled Caerffili.
Os oes gennych chi blentyn rhwng 0 a saith oed a’ch bod yn teimlo y byddech chi’n hoffi cael cymorth, yna gall y tîm Blynyddoedd Cynnar eich cefnogi chi o’r adeg y byddwch chi’n gwybod eich bod chi’n feichiog yr holl ffordd i’r adeg pan fydd eich plentyn yn dechrau yn yr ysgol. Mae’r tîm Blynyddoedd Cynnar yn gweithio’n agos gyda bydwragedd, ymwelwyr iechyd, nyrsys ysgol, ysgolion, lleoliadau gofal plant a’r holl ymarferwyr blynyddoedd cynnar sy’n gallu cefnogi amrywiaeth eang o ddarpariaeth ar-lein, neu wyneb yn wyneb, yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen arnoch chi a’ch teulu.