Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae ein clybiau ieuenctid mynediad agored yn targedu pobl ifanc 11-17 oed. Mae ein darpariaethau wedi’u targedu yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl ifanc hyd at 24 oed (Prosiect Delwedd Iach a Phrosiect y Dderwen). Mae ein Prosiect Cynnydd yn cefnogi pobl ifanc 16-18 oed gyda chyflogadwyedd.
Mae ein holl sesiynau yn rhad ac am ddim a darperir bwyd a lluniaeth. Mae tâl bychan ar gyfer y Cynllun Dug Caeredin i gyfrannu tuag at y wobr a’r daith.
Linc Cofrestru:
https://app.upshot.org.uk/signup/289b9829/ .
Mae ein tîm Ysgolion Bro yn cefnogi pobl ifanc ym mhob ysgol uwchradd yng Nghonwy, yn ogystal â’u teuluoedd.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Gall pobl ifanc rhwng 11-17 oed gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o weithgareddau yn Sir Conwy. Bydd rhai o'r gweithgareddau gwych sydd i'w gwneud yn y clybiau yn cynnwys: cerddoriaeth, gemau a gweithgareddau awyr agored, celf a chrefft, chwaraeon nad ydynt yn draddodiadol, adeiladu tîm, cyfrifiaduron......Nid yn unig hyn ond mae ein gweithwyr ieuenctid yn mynd yma ac acw o gwmpas yr ardal yn aml a hefyd mae 'na fws ieuenctid yn stopio mewn gwahanol ardaloedd. Wrth gwrs mae 'na lawer o bethau eraill yn digwydd fel tripiau, sesiynau galw heibio lles, teithiau preswyl, DofE (Gwobr Dug Caeredin), Cyngor yr Ifanc a llawer mwy - mae'r rhestr yn hir iawn iawn! Am ragor o wybodaeth cymerwch olwg ar y wefan.
Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Cysylltwch am fanylion - Depends
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae Gwasanaeth Ymgysylltu a Pherthyn Ieuenctid yn gweithio gydag unrhyw un rhwng 11 a 25 oed, beth bynnag fo’u rhyw, eu cefndir neu eu gallu.
Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol?
Cysylltwch am fanylion Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
PO Box 1
Conwy
LL30 9GN
Gwefan
https://www.conwy.gov.uk/cy/Resident/Education-and-Families/Conwy-Youth-Service.aspx
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01492 575100
Ebost: GwasanaethIeuenctid@conwy.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
X
Instagram
YouTube
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Lifft
Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
Amserau agor
gweler wefan am fanylion