Dechrau'n Deg Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Dechrau’n Deg yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o ddarparu mwy o gymorth a chyfleoedd i deuluoedd â phlant o dan 4 oed. Mae gwasanaethau Dechrau’n Deg yn cael eu darparu naill ai wyneb yn wyneb, mewn grwpiau, ar-lein, neu dros y ffôn. Mae Dechraun Deg Ceredigion yn darparu:
- Gwasanaeth Iechyd y Blynyddoedd Cynnar. Mae gennym Dîm Ymwelwyr Iechyd sydd yn cynnwys Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Teuluoedd, sydd yn medru cynnig gwasanaeth mwy dwys pan fo angen. Rhif ffôn Hwb Ymwelwyr Iechyd: 0300 303 8322 (9yb-5yp, Llun-Gwener).
- Gofal Plant Rhan Amser o Ansawdd Uchel wedi ei ariannu ar gyfer plant 2-3 mlwydd oed. Cynnigir gofal plant mewn lleoliad o'ch dewis chi am 2 awr a hanner bob dydd, 5 diwrnod yr wythnos am 39 wythnos y flwyddyn. I ddarganfod a ydych chi'n gymwys ewch i'n gwefan.
- Cymorth Rhianta trwy gwaith 1:1 neu trwy grwpiau lleol.
- Cymorth i ddatblygu sgiliau iaith cynnar, cyfathrebu a siarad trwy gwaith 1:1 neu grŵp i fagu sgiliau ac ymwybyddiaeth.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
O dan amodau arferol, mae Dechrau'n Deg ar gael i bob teulu cymwys sydd yn byw mewn Cod Post #DechraunDegCeredigion yn yr ardaloedd a ganlyn:
- Aberteifi
- Penparcau
- Llanarth
- Llandysul
- Aberporth
- Llechryd
I ddarganfod a ydych mewn cod post sy’n gymwys ar gyfer Dechrau’n Deg, gallwch roi eich cod post i mewn i’n gwiriwr cod post ar ein gwefan
I gael mwy o wybodaeth am ein holl grwpiau a chyrsiau, neu i gysylltu â ni, gallwch:
- Teipiwch #DechraunDegCeredigion neu
#ODan5Ceredigion neu
#RhiantaCeredigion yn y bar chwilio ar DEWIS.
- Dewch o hyd i'n tudalen Facebook Teuluoedd Ceredigion Families.
- Ffoniwch Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid Clic ar 01545 570 881
- E-bostiwch dechraundeg@ceredigion.gov.uk
- Ewch i ein wefan https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal-1/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae grwpiau a chyrsiau Dechrau'n Deg ar gael ar hyn o bryd i deuluoedd ledled Ceredigion. Mae’r rhaglen ar gael i bob teulu sy’n byw o fewn codau post penodol, ewch i’n gwefan a rhowch eich cod post yn ein gwiriwr cod post i weld a ydych yn gymwys.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Arbennig. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
Canolfan Enfys Teifi
Stryd Napier
Aberteifi
SA43 1EH
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01545 570 881(Clic Ceredigion )
Ebost: dechraundeg@ceredigion.gov.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Parcio hygyrch
Amserau agor
9-5 Llun-Gwener