Ysgol Feithrin Pontypwl - Grwp chwarae
Mae'r darparwr wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) neu yn cyfatebol.
Cafodd y darparwr arolygiad ar: 08/03/2022
Mae gan yr darparwr yma lleoedd gwag rhan-amser i blant o oedran 2.5 blynyddoedd a 5 blynyddoedd. Os oes gennych diddordeb yn ein Meithrinfa gofynnir ichi gysylltu a ni am sgwrs cyn gynted a phosibl. Gallem esbonio'r drefn ac ateb unrhyw gwestiynau a gwneud apwyntiad i'ch dangos o gwmpas. Rydym wrth ein boddau yn croesau teuluoedd newydd felly beth amdani? Cysylltwch heddiw trwy anfon e bost at Helen yr Arweinydd hgglynebwy@gmail.com Yn ystod y tymor gellir hefyd ein ffonio ar 01495 755616.
Mae'r darparwr hwn wedi'i gofrestru ar gyfer 19 o leoedd ac mae ganddo staff ar gyfer 19 lle.
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae Cylch Meithrin yn Feithrinfa dydd cyfrwng Cymraeg yn y sector nas gynhelir. Sefydlwyd Ysgol Feithrin Pontypwl dros 45 mlynedd yn ol ar gyfer plant dwy a hanner i bump oed. Hen Neuadd Eglwys yw'r lleoliad yng nghanol y dref ac fe gafodd ei adnewyddu i'n pwrpas ni 15 mlynedd yn ol. Mae gofod mawr olau tu fewn ac ardal chwarae eang tu allan. Rydym yn cynnig gofal sesiynol a gofal dydd llawn tridiau'r wythnos. Mae gennym clwb brecwast a chlwb cinio a Chylch Ti a Fi bob bore Iau. Mae gennym tua 15 o blant ar ein cofrestr ar hyn o bryd. Rydym yn annog teuluoedd sydd a diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg i gysylltu a ni i drefnu ymweld.. Mae gan y 4 aelod o staff flynyddoedd o brofiad. Mae'r Arweinyddes a 2 aelod arall o staff yn Gymry Cymraeg iaith cyntaf ac mae'r 2 aelod o staff eraill yn ddysgwyr da iawn ac yn defnyddio'r Gymraeg gyda'r plant trwy'r amser. Mae ein brwdfrydedd, a'n cyfeillgarwch yn heintus ac rydym yn aml yn cadw cysylltiad a theuluoedd am flynyddoedd i ddod.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn cynnig polisi drws agored ac yn awyddus i groesawu unrhyw deuluoedd o ardal Torfaen ac ymhellach i'n plith os oes ganddynt diddordeb mewn addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant. Mae nifer o'n rhieni yn siaradwyr Cymraeg (rhai wedi bod trwy ein Meithrinfa a'r ysgolion cyfrwng Cymraeg lleol eu hunain!) ond mae'r rhan fwyaf yn ddi - Gymraeg ond am i'w plant dysgu Cymraeg. Rydym yn cefnogi'r teuluoedd sydd am ddysgu Cymraeg ac yn rhannu gwybodaeth gyda nhw. Mae'r Meithrinfa yn gweithredu fel cylch chwarae i blant o ddwy a hanner ymlaen yn ogystal a bod yn Meithrinfa ar gyfer plant 4 oed cyn iddynt symud ymlaen i'r dosbarth derbyn. Mae'r plant yn gallu aros trwy'r dydd tairgwaith yr wythnos. Rydym yn dilyn Cwriciwlwm ar gyfer LLeoliadau Nas Gynhelir yng Nghymru. Y peth pwysig yw fod y plant yn dysgu trwy chwarae. Mae'r plant yn chwarae rol blaenllaw wrth ddewis gweithgareddau, adnoddau, offer ac ati tu fewn a thu allan. Y plant sydd yn bwysig!
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae Ysgol Feithrin Pontypwl ar agor i blant rhwng dwy a hanner a phump sydd a diddordeb mewn derbyn addysg cyfrwng Gymraeg
Amlifellau ac Archediadau
Ein oriau agor ac argaeledd
Rydym ar gael: Tymor ysgol yn unig. Mae Ysgol Feithrin ar agor 4 diwrnod yr wythnos . Rydym ar agor am ddiwrnod llawn ar Ddydd Llun, Mercher a Gwener a bore yn unig ar ddydd Mawrth. Ar hyn o bryd rydym ar gau ar ddydd Iau
| Tymor y gwanwyn |
| Tymor yr hydref |
| Tymor yr haf |
Ni allwn darparu gofal cofleidiol..
| Dydd Llun | 08:30 | 15:15 |
| Dydd Mawrth | 08:30 | 12:00 |
| Dydd Mercher | 08:30 | 15:15 |
| Dydd Gwener | 08:30 | 15:15 |
Rydym yn cynnig Clwb Brecwast rhwng 8.30am - 9.30am 4 bore'r wythnos ac yn darparu 'r bwyd. Rydym yn cynnig Clwb Cinio rhwng 12pm -12.45pm ar Ddydd Llun, Mercher a Gwener ac mae'r plant yn dod a phecyn bwyd. Mae'r plant yn gallu dewis rhwng gofal sesiynol 4 diwrnod yr wythnos neu gofal trwy'r dydd ar ddydd Llun ,Mercher a Gwener
Ein costau
N/A
Am
Am ein gwasanaeth
Darperir y gwasanaeth hwn yn Gymraeg.
| Mae gan y darparwr fynediad i gefnogaeth a chyngor am Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)
|
|
| Mae gan y darparwr wybodaeth weithiol o Ddeddf ADY a dulliau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar Unigolion
|
|
Mae staff wedi cael hyfforddiant perthnasol (at gefnogi plant ac anghenion dysgu ychwanegol/anabledd) yn y 2 flynedd diwethaf? Mae 2 aelod o staff wedi cwblhau hyfforddiant (Modiwl 1-7) y Deddf ADY Last completed 10.07.2025 |
|
| Man tu allan
Mae gennym gofod amrywiol tu allan/gardd anferth ac adnoddau cyffroes. Defnydd o Barc Pontypwl hefyd |
|
| A wnewch ddefnyddio cewynnau go iawn ar gyfer plant yn eich gofal?
Nid oes llawer o blant gennym sydd ddim eisioes yn gallu defnyddio ty bach. Gellir hefydnewid cewyn |
|
| Ydy eich lleoliad yn rhydd o anifeiliaid anwes?
Yn ein pwll ddwr tu allan mae gennym pysgod aur a penbwliaid yn y gwanwyn. |
|
| Yn paratoi gwasanaethau 'Dechrau'n Deg'?
|
|
| Yn cynnig y Cyfnod Sylfaen Meithrin (addysg ar gyfer plant tair i bedair oed) | |
| Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o Gynllun Gofal Plant | |
| Mae'r gwasanaeth hwn yn derbyn talebau gofal plant Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn codi £13 y sesiwn. |
|
Mae'r gwasanaeth hwn wedi'i gofrestru gyda'r Cynllun Gofal Plant Di-dreth Mae Ysgol Feithrin Pontypwl yn codi £13 y sesiwn. Clwb Brecwast £3 Clwb Cinio £2no |
|
Yn paratoi gofal ar frys/dros gyfnod byr? |
|
| Yn gallu gofalu am blant ble nid Saesneg na Chymraeg yw eu prif iaith Mae Ysgol Feithrin POntypwl yn croesawu plant o bob cefndir ieithyddol, os ydynt yn awyddus i ddilyn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae dysgu mwy nac un iaith yn haws o lawer i blant bach ac rydym fel staff yn awyddus i gefnogi teuluoedd sydd yn dod atom gan cynnig gwybodaeth eang iddynt am ddysgu Cymraeg. |
Ysgolion
Nid ydym yn gollwng/codi o unrhyw ysgol.
Nid ydym yn gollwng/godi o manau eraill.

Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gallwch ymweld â ni yma:
Neuadd Iago Sant
Cae Iago Sant
Heol Hanbury
Pontypwl
Torfaen
NP4 6JT
Gwefan
https://www.facebook.com/ysgolfeithrinpontypwl/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01495 755616
Ebost: hgglynebwy@gmail.com
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Toiledau hygyrch
Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
Croeso i fwydo ar y fron
Cyfleusterau newid babanod