Uned Sgiliau a Hyfforddiant Cyngor Castell-nedd Port Talbot - Addysg


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Sgiliau a Hyfforddiant yn ddarparwr dysgu seiliedig ar waith sy’n gweithredu o fewn yr awdurdod lleol, gan ddarparu cyrsiau, cymwysterau a phrofiad gwaith drwy ein rhaglenni a ariennir megis Twf Swyddi Cymru a Prentisiaethau. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau masnachol llai megis cymorth cyntaf pediatrig, tystysgrifau hylendid bwyd, cyrsiau Iechyd a Diogelwch ac ati.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Unrhyw un 16+ oed sydd â diddordeb mewn Prentisiaethau a phrofiad gwaith.
Cyflogwyr a staff presennol sy’n chwilio am uwchsgilio neu gwblhau cyrsiau byr.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mae'n dibynnu - Efallai y bydd rhywfaint o gyllid ar gael ar gyfer hyfforddiant megis Prentisiaethau.
Mae prisiau ein cyrsiau masnachol byr ar gael ar gais.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni’n uniongyrchol.






Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i Ddydd Iau: 9.00 tan 4.30
Dydd Gwener: 9.00 tan 4.00