Y Bont Eich Cefnogi Trwy Benderfyniadau Beichiogrwydd a Cholled - Gwasanaethau Adfer Iechyd Meddwl


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Y Bont yn wasanaeth cymorth rhad ac am ddim yng Ngogledd Cymru a Chaer i unrhyw un sy’n wynebu penderfyniad beichiogrwydd ac i’r rhai sydd angen cefnogaeth ar ôl profi colled beichiogrwydd.

A oes gennych chi benderfyniad beichiogrwydd anodd i'w wneud?

Ydych chi wedi cael camesgoriad, beichiogrwydd ectopig, marw-enedigaeth neu farwolaeth newyddenedigol?

Neu a ydych chi wedi profi terfyniad beichiogrwydd?

Gallwn ni helpu.

Y Bont Rhif Cofrestredig yr Elusen (Rhif 1126108)

#IechydMeddwl

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r gwasanaeth ar gyfer pob oedran ac mae ar gyfer pobl sy'n byw yng Ngogledd Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chaer.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Ceir mynediad at wasanaeth yn uniongyrchol trwy hunan-atgyfeirio cleientiaid neu gall fod trwy asiantaeth. Mae'r meini prawf atgyfeirio yn cynnwys beichiogrwydd argyfwng, annisgwyl neu broblemus a cholli neu derfynu beichiogrwydd. Rydym yn gallu derbyn atgyfeiriadau ar ôl treisio a cham-drin rhywiol.




 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Priory Street
Wrexham
LL11 1SP



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Mae'r swyddfa ar agor ddydd Llun, Mawrth a Mercher 9.00am i 4.00pm. Gellir gadael negeseuon ffôn ar unrhyw adeg ac ymatebir iddynt yn gyflym.