Grymuso Rhieni Grymuso Cymunedau Sir y Fflint - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Hoffech chi ddarganfod mwy am sut i gefnogi eich plentyn? Mae grwpiau Bod yn Rhiant am ddim i ymuno â nhw ac yn cael eu rhedeg yn rhithiol a hefyd wyneb yn wyneb. Mae ein grwpiau yn unigryw i eraill gan eu bod yn cael eu rhedeg gan rieni lleol. Cânt eu rhedeg dros 8 wythnos (tymor ysgol yn unig) am 2 awr yr wythnos. Rhai o'r pynciau dan sylw yw Bod yn Rhiant, Chwarae, Teimladau, Deall Ymddygiad Plant a Gwerthfawrogi fy Mhlentyn. Mae gennym hefyd grŵp Babi & Ni sy'n cael ei redeg am 8 wythnos (yn ystod y tymor yn unig) am 2 awr yr wythnos. rhai o'r pynciau dan sylw yw Personoliaeth Eich Babi, Rheoli Straen, Gofalu Amdanon Ni'n Hunain, a Theimladau. Mae’r grwpiau’n gyfle i gwrdd â rhieni eraill sy’n mynd trwy brofiadau tebyg a rhannu syniadau ynglŷn â chefnogaeth ymarferol ar gyfer heriau dydd i ddydd o fod yn riant.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae'r grwpiau Bod yn Riant yn agored i bob rhiant sy'n byw yn Sir y Fflint sydd â phlentyn rhwng 2 ac 11 oed.

Mae grwpiau Babi a Ni yn agored i bob rhiant sy'n byw yn Sir y Fflint sydd â phlentyn 0 - 9 mis oed.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni yn uniongyrchol

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol No Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? No





Dulliau cysylltu

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Llun i Gwener o 9am-4pm.