Dechrau'n Deg Ceredigion - Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Mae'r dull Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae wedi'i gynllunio i gefnogi datblygiad iaith plant ifanc o dan 4 oed.
Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i adnabod cryfderau.
Fel arfer mae sesiynau'n para awr, ac mae 4 sesiwn wythnosol yn y cartref.
Gyda Nôl ac Ymlaen, bydd fideo yn cael ei wneud ohonoch yn rhyngweithio â'ch plentyn. (Nid oes fideo yn cael ei wneud yn Dewch i Chwarae).
Bydd Gweithiwr Teulu yn eich cefnogi i sefydlu nodau i ganolbwyntio arnynt bob wythnos.
Nod:
Cefnogi rhieni i ddatblygu ffyrdd ymatebol o ymwneud â’u plentyn yn seiliedig ar eu cryfderau presennol .
Darparu dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth i'w ddefnyddio gyda theuluoedd a allai gael budd o ymyrraeth wedi'i thargedu.
Beth fydd yn digwydd wedyn?
Ar ôl cwblhau'r cyrsiau yma, bydd y Gweithiwr Teulu yn trafod y cynnydd gyda chi a'r person wnaeth eich cyfeirio ac yn penderfynu ar y cam nesaf.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Nôl ac Ymlaen a Dewch i Chwarae i rieni a'u plant o dan 4 oed.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni gyda'r manylion isod neu gwiliwch ein tudalen ar Facebook.
#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #RhiantaCeredigion
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall unrhyw riant neu ofalwr sy'n byw yng Ngheredigion gael mynediad at yr adnodd hwn.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 01545 570 881 (Clic Ceredigion)
Ebost: Ceri.Davies@ceredigion.gov.uk(Ceri Davies)
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun 9yb- Dydd Gwener 5yp