Beth rydym ni'n ei wneud
Mae gan y Gwasanaethau Chwarae Plant ‘Gynlluniau Chwarae Mynediad Agored’ i blant 5-14 yng Nghaerdydd. Mae’r gwasanaeth bob amser yn gweithredu darpariaeth ‘Mynediad Caeedig’ i blant a phobl ifanc anabl.
Mae timau chwarae cymwys yn hwyluso ystod eang o weithgareddau yn ogystal ag annog plant i ddyfeisio rhai eu hunain. Gwneir pob ymdrech i fodloni anghenion arbennig ac unigol yr holl blant sy’n mynd.
Gallai’r gweithgareddau gynnwys:
Gemau grŵp fel:
Gemau parasiwt, creu den, gwisgo fyny, gemau bwrdd, gemau cardiau, rhedeg, jenga, charades, gemau meddwl ac ati.
Chwaraeon fel:
Tennis bwrdd, gemau pêl, hoci, sgipio, pêl-droed, batio, peli, hŵla hŵps, cyrsiau dringo, hoci rhifau, osgoi’r bêl, matiau crash a chwarae meddal.
Celf a Chrefft megis:
Darlunio, modelu sbwriel, lliwio, gludwaith, peintio, modelu clai, gemwaith, creu bathodynnau, gwneud cardiau, darlunio cartwnau, dathliadau â thema, gleiniau hamma, amlunio, peintio wynebau, celf ewinedd ac ati.