Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Fe allech chi ddod yn ofalwr maeth, waeth beth fo’ch oedran, rhywedd, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, ethnigrwydd a chrefydd. Gallwch chi hefyd faethu os oes gennych chi anifeiliaid anwes, anabledd, plant yn byw gartref, neu os ydych yn berchennog tŷ neu’n denant mewn tŷ preifat neu gymdeithasol.
Os oes gennych chi le yn eich cartref ac amser yn eich bywyd i ofalu am blentyn, yna cysylltwch â ni heddiw i ddarganfod mwy am ddod yn ofalwr maeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful.