Dechrau'n Deg Ceredigion - Grŵp Rhieni Ifanc (Penparcau) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Tim Rhianta a Chymorth Teuluoedd Ceredigion yn cynnig sesiwn grŵp hwyliog a rhyngweithiol i rieni ifanc (26 oed ac iau) sy'n eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar fywyd teuluol. Rydyn yn gweithio gydag amrywiaeth o Wasanaethau ar draws Ceredigion hefyd, er mwyn darparu amrediad o raglenni Rhianta sy'n addas i anghenion rhieni, boed hynny dan drefniant un i un neu mewn Grwpiau.
Fel arfer mae'r Grŵp Rhieni Ifanc yn cyfarfod bob wythnos. Rydym yn cynnig grŵp hwyliog a rhyngweithiol lle y gallwch gyfarfod rhieni ifanc eraill, cael sgwrs a manteisio ar gyngor a chymorth rhianta. Rydym yn cynnig syniadau am weithgareddau celf a chrefft hefyd, gan archwilio unrhyw faterion diddorol eraill yn y grŵp.
Mae'n gyfle gwych i gyfarfod rhieni ifanc eraill ac i'ch plentyn chwarae ac archwilio a gwneud ffrindiau newydd.
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae'r grŵp yn cwrdd rhwng 11.00yb a 12.30yp bob dydd Iau (amser tymor yn unig) yn Nyth Ni, Campws Llwyn yr Eos, Penparcau.
Sylwch fod y grŵp weithiau yn cynnal bloc o 6 wythnos o sesiynau coginio, felly mae’r amser cychwyn ar gyfer y grŵp yn 9.30yb. Mae bloc o sesiynau coginio yn cael ei gynnal o 6-11-25 tan ddiwedd y tymor.
Nid oes angen archebu lle ar gyfer y grŵp hwn ond os hoffech ragor o wybodaeth cysylltwch â ni.
#DechraunDegCeredigion #ODan5Ceredigion #CeredigionParenting
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall rhieni ifanc (dan 26 oed) sy'n byw yng Ngheredigion gysylltu â ni.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Mae cefnogaeth iechyd wedi eu addasu i gynnwys plant ag anableddau ar y cyfan. Mae gan rhai staff y gallu i ddefnyddio arwyddiaith. Rydym yn darparu rhaglen Awtistiaeth benodol a chwrs Meithrin Rhieni yn benodol ar gyfer rhieni plant ag Anabledd neu Anghenion Dysgu Ychwanegol. Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymorth-rhianta-a-teulu/dechrau-n-deg/
Dulliau cysylltu
Ffôn: 07891 321 778(Jo Alice Davies )
Ffôn: 01545 570 881(CLIC)
Ffôn: 07977 763 751(Zoe Jones)
Gwefan hawdd ei ddeall: https://www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/lles-a-gofal/cymorth-i-blant-pobl-ifanc-a-theuluoedd/cymort(Tudalennau gwe Cymorth Rhianta a Teulu)
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
Hygyrchedd yr adeilad
Amserau agor
Dydd Llun-Dydd Gwener 9yb-5yp