Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Traed Bech Twymyn yn Gylch Meithrin newydd sbon sy’n cynnig gofal drwy’r dydd trwy gyfrwng y Gymraeg i blant ieuengaf ardal Glantwymyn ger Machynlleth. Cafodd ei sefydlu gan rieni lleol, ar ól sylweddoli fod galw sylweddol am ofal plant cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Rydym wedi ei lleoli yn y neuadd bentref yng Nghemaes . Mae'r staff cymmwys a phrofiadol yn gyfrifol am sicrhau bod pob plentyn yn derbyn gofal a sylw tyner a phriodol.