Hope GB - Aros a Chwarae - Gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae ein grwpiau aros a chwarae sy'n ystyriol o awtistiaeth yn creu amgylchedd sy’n meithrin a chefnogi, wrth gynnig cyfleoedd difyr ac ysgogol i blant ar y sbectrwm awtistig.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Os ydych chi'n 12 oed neu'n iau ac wedi cael eich diagnosio ag awtistiaeth, neu’n disgwyl diagnosis (gan gynnwys Aspergers) ac yn byw yn Nhorfaen, mae croeso i chi ddod i’n clybiau chwarae a chlybiau ieuenctid!

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Oes - £5 y sesiwn.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nid oes angen atgyfeiriad i gael mynediad i'n gwasanaeth, ond bydd ffurflen i gwblhau i'w ychwanegu at y rhestr aros. Mae rhaid i'r plentyn naill ai gael diagnosis o awtistiaeth neu yn y broses o gael diagnosis o awtistiaeth.

Manylion am wasanaeth gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc

Iaith: Lleoliad cyfrwng Saesneg gyda rhai elfennau dwyieithog

  • Rhowch fanylion am gefnogaeth i blant gydag anableddau / anghenion ychwanegol? Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Rydym yn elusen ar gyfer awtistiaeth yn Nhorfaen felly mae pob gwasanaeth a darpariaeth rydym yn cynnig yn ystyriol o awtistiaeth. Rydym wedi hyfforddi staff cymwys gyda phrofiad byw a broffesiynol o awtistiaeth. Mae gennym hefyd ystafell synhwyraidd ar y safle ac yn sicrhau bod cymhareb staff i blant yn uchel er mwyn caniatáu cymorth un-i-un os oes angen.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch ymweld â ni yma:

Thornhill Community Centre
Leadon Court
Cwmbran
NP44 5TZ



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad

 Amserau agor

Dydd Mawrth 12:00 - 1:30pm