Beth rydym ni'n ei wneud
Mae hwn yn rhan o Lwybr Cefnogi sy’n Targedu Ieuenctid a’r Blynyddoedd Cynnar Teuluoedd yn Gyntaf /Dechrau’n Deg ac y mae yma i roi cyngor, tips, gwybodaeth ac arweiniad ar ddatblygiad eich plentyn. Ei nod yw gwella profiadau cadarnhaol i’r teulu, gwella perthynas rhwng plentyn a’i rieni a chynyddu ei hyder. Rydym yn cynnig cefnogaeth un i un i rieni ond ymyrraeth grŵp hefyd sy’n cynnwys y canlynol: Rhaglenni’r Blynyddoedd Anhygoel, Babi, Plant Bach, Sylfaenol a 7+, Rhaglen y New Forest, Rhaglen Early Bird, Triple P a Rhaglen Cryfhau Teuluoedd. Caiff ymyrraeth ei gynnig i rieni a theuluoedd yn seiliedig ar oed ac angen y plentyn. Mae rhaglenni’n amrywio o Fabanod o dan 6 mis i fyny at rieni pobl yn eu harddegau, 16. Mae’r gefnogaeth ymyrraeth i rieni hefyd yn arbenigol ac yn cynnig cefnogaeth grŵp i rieni â phlant â diagnosis o ASD ac AD/HD
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
I deuluoedd â phlant 0-16 oed
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Mae’r gwasanaeth yn gyffredinol a gall yr holl rieni a gofalwyr o Ferthyr Tudful gael mynediad at gefnogaeth – rhif ffôn 01685 727401
Cyfeiriad
Gallwch chi anfon post yma:
15 Chestnut Way
Merthyr Tydfil
CF47 9SB
Amserau agor
Dydd Llun i ddydd Gwener 08:00 i 17:00