Ti a Fi Llyfrgell y Barri - Gweithgareddau rhieni a phlant bach / oed meithrin


Beth rydym ni'n ei wneud

Rydym yn croesawu pob unigolyn gyda breichiau agored i’n Cylchoedd Ti a Fi gan ein bod yn credu fod gan bob plentyn yr hawl i ddysgu Cymraeg a dylid rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn wneud hynny.

Mae’r Cylch Ti a Fi yn rhoi cyfle ichi a’ch plentyn gwrdd yn rheolaidd gyda rhieni/gwarchodwyr a phlant eraill er mwyn i’r plant gael cyfle i fwynhau chwarae gyda’i gilydd gan roi cyfle ichi gymdeithasu dros baned neu ddisgled o de! Mae’n gyfle gwych i rieni/gwarchodwyr gwrdd i rannu profiadau a chymdeithasu mewn awyrgylch Gymreig. Rydym fel un teulu mawr!

Wrth fynd i’r Cylch Ti a Fi bydd eich plentyn yn cael cyfle i:

fwynhau chwarae a gwneud ffrindiau bach newydd
chwarae gyda phob math o deganau
dysgu caneuon bach syml y gallwch eu canu gyda’ch gilydd gartref
gwrando ar storiau

… a joio!

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Rhieni a gofalwyr gyda phlant cyn ysgol (0-4)

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Gall unrhyw un gysylltu â ni






Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

 Amserau agor

Dydd Mercher 10.30 - 11.30
& 11.30 -12.30 (Babis)
Llyfrgell y Barri