Gwasanaeth digost a chynhwysol ar gyfer teuluoedd yw Teulu Môn. Gwasanaeth sy’n gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer Plant, Teuluoedd a Gweithwyr Proffesiynol er mwyn cael mynediad at wybodaeth, cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â Phlant, a theuluoedd sydd â phlant, rhwng 0-25 oed.Rydym yn rhan o Wasanaethau Plant Ynys Môn a gallwn roi cymorth i chi os ydych:Yn chwilio am ofal plant neu’n meddwl dechrau gweithio fel gofalwr plant proffesiynol.Eisiau gwybodaeth am weithgareddau i blant a/neu grwpiau cymorth lleol yn yr ardal.Angen cyngor ar sut i helpu teulu sydd angen cefnogaeth ychwanegol, oherwydd bod teulu wedi chwalu, pryderon yn ymwneud â thai, problemau ariannol neu brofedigaeth.Eisiau cymorth ar gyfer teulu sy’n wynebu problemau yn yr ysgol, oherwydd anabledd yn y teulu, beichiogrwydd yn yr arddegau, cam-drin alcohol achyffuriau.Eisiau siarad am bryder sydd gennych am lesiant neu niwed posibl i blentyn
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Ynys Môn (FIS) - Blant, teuluoedd, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol
Nac oes
Mae'r gwasanaeth ar gael I unrhyw un
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
Swyddfeudd y CyngorCyngor Sir Ynys MonLlangefniLL77 7TW
http://www.ynysmon.gov.uk/iechyd-a-gofal/gofal-i-blant-a-theuluoedd/teulu-mn?redirect=false