Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Mae Meddwl am Feichiogrwydd ar gyfer darpar rieni rhwng 12 a 26 wythnos o feichiogrwydd. Bydd y rhaglen yn cael ei chwblhau erbyn wythnos 34 y beichiogrwydd.
Mae’n cefnogi’r rheini sy’n teimlo neu sydd mewn perygl o deimlo gorbryder neu iselder ysgafn.
Fel rheol mae Meddwl am Feichiogrwydd yn cwrdd unwaith yr wythnos am wyth wythnos, a bydd dwy sesiwn ar ôl y geni. Mae’r sesiynau’n gallu digwydd wyneb yn wyneb neu ar-lein. Mae’r sesiynau ar gyfer y naill riant neu’r llall. Gallwch ddod ar eich pen eich hun neu ddod â rhywun gyda chi i’ch cefnogi.
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar:
• Strategaethau ymdopi.
• Deall iechyd meddwl.
• Ymwybyddiaeth ofalgar.
• Ymlacio.
• Cysylltu â’ch babi.
Does dim angen cael diagnosis meddygol i ddod i Meddwl am Feichiogrwydd.