Barnados Gogledd Cymru - Mae Teuluoedd yn Bwysig: Conwy / Sir Ddinbych / Sir y Fflint - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Beth rydym ni'n ei wneud
Nod cyffredinol y gwasanaeth ydi darparu cefnogaeth arbenigol i blant a theuluoedd lle mae o leiaf un, neu’r ddau riant/gofalwr, yn camddefnyddio cyffuriau a/neu alcohol. I gyflawni hyn, mae gennym brofiad ac arbenigedd i ddarparu gwasanaeth a fydd yn gweithio i leihau’r effaith negyddol ar blant a phobl ifanc pan fydd rhieni yn camddefnyddio sylweddau, a lleihau’r risg y bydd pobl ifanc (gan gynnwys gofalwyr ifanc sy’n camddefnyddio sylweddau) yn dechrau camddefnyddio sylweddau eu hunain; yn ogystal ag atal a lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y dyfodol.  
Y nod yw bod teuluoedd â rhieni sy’n camddefnyddio sylweddau lle mae camddefnyddio sylweddau yn effeithio arnynt, yn gallu gweithredu’n fwy effeithiol a chynnig amgylchedd diogel i blant. 
Pwy ydym ni'n eu cefnogi
Cynnig gwasanaeth cyfrinachol a chyfeillgar, a ddarperir ar draws 3 sir (Conwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint), byddwn yn darparu gwasanaethau ac ymyriadau a fydd yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:
• Darparu asesiadau o angen; asesu teuluoedd mewn ffordd gyfannol o ran camddefnyddio sylweddau ond hefyd asesu profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn y cartref
• Darparu amrywiaeth o ymyriadau penodol i deuluoedd sy’n cefnogi prosesau gwneud penderfyniadau, meithrin cydnerthedd, hunan-barch a datrys problemau 
• Cefnogaeth 1-1 sy’n helpu plant/phobl ifanc i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol camddefnyddio sylweddau ar eu bywydau
• Darparu cyfleoedd i gael cymorth grwpiau a chyfoedion i blant/phobl ifanc ddatblygu rhwydweithiau cymorth cynaliadwy a lleihau’r teimlad o fod ar eu pen eu hunain
• Darparu ymyriadau magu plant sy’n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau 
• Adnabod a rheoli risgiau – deinamig a sefydlog
• Cyngor, gwybodaeth & ymwybyddiaeth i deuluoedd
All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?
Gall gweithwyr proffesiynol neu unigolion gyfeirio plentyn/person ifanc neu riant sy’n byw yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint lle ceir problemau gyda rhieni/gofalwyr yn camddefnyddio sylweddau/alcohol.
Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
- Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. - Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?
 
Gwybodaeth gymdeithasol
Cyfeiriad
Gwefan
https://www.barnardos.org.uk/what-we-do/services/familial-substance-misuse-service
Dulliau cysylltu
Ebost: flintshireservices@barnardos.org.uk
Cyfryngau cymdeithasol
Facebook
X
Hygyrchedd yr adeilad