Mae'r Tîm Dyletswydd Argyfwng (EDT) yn darparu gwasanaeth gwaith cymdeithasol mewn argyfwng mewn sefyllfaoedd brys sy'n codi y tu allan i oriau swyddfa arferol, ac nad oes modd iddynt aros nes y diwrnod gwaith nesaf er mwyn cael asesiad o'r risg a'r ddarpariaeth gwasanaethau. Mae'r gwasanaeth ar gael i'r cyhoedd ac i weithwyr proffesiynol y maent yn byw ac yn gweithio ym Merthyr Tudful. Mae gweithwyr cymdeithasol EDT wedi cael eu hyfforddi i ymateb i geisiadau plant ac oedolion am help a chymorth neu asesiadau brys.
Mae'n wasanaeth generig ar gyfer oedolion a phlant agored i niwed, gan gynnig mynediad i weithiwr cymdeithasol mewn argyfwng gyda'r hwyr, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau banc.
Nac oes
Atgyfeiriad sy'n ofynnol gan deulu/hunan neu unrhyw asiantaeth sy'n gweithio gyda'r teulu
Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg
http://www.merthyr.gov.uk/resident/social-services-and-well-being/?lang=cy-GB&