Gwasanaeth Gwybodaeth i deuluoedd Wrecsam (FIS) - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Gwybodaeth, cyngor ac arweiniad mewn perthynas â gofal plant a chostau gofal plant; gan gynnwys y Cynnig Gofal Plant i Gymru, pethau i’w gwneud; iechyd plant; diogelwch plant; bwlio; ymddygiad; magu plant; a llawer mwy.

Mae cyngor a chymorth cyfeillgar ar gael i helpu:
- rhieni i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, gan gynnwys rhieni plant anabl a phlant ag anghenion arbennig;
- rhieni i wella eu hyder a’u gwytnwch

Rydym yn wasanaeth â Sicrwydd Ansawdd ac wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn 2021.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Gall rhieni a gofalwyr o feichiogrwydd hyd at ben-blwydd y plentyn yn 20 oed a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gael mynediad at Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam.

Oes tâl yn cael ei godi am ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Nac oes

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Mynediad agored.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Dwyieithog

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol Yes Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach. Gall ein Hymgynghorwyr Cefnogi Rhieni ddarparu cefnogaeth un i un i deuluoedd gyda phlant ag anableddau/anghenion ychwanegol i lywio’r gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd ar gael.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys? Yes



 Cyfeiriad

 Gallwch chi anfon post yma:

31 Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG

 Gallwch ymweld â ni yma:

Adeiladau’r Goron
31 Stryt Caer
Wrecsam
LL13 8BG



Dulliau cysylltu

Cyfryngau cymdeithasol

 Hygyrchedd yr adeilad

  • Toiledau hygyrch
  • Parcio hygyrch
  • Dolen glyw
  • Drysau awtomatig
  • Mynediad drwy gyfrwng rampiau/mynediad gwastad
  • Croeso i fwydo ar y fron
  • Cyfleusterau newid babanod

 Amserau agor

Rhif ffon Llun-Gwener 9:00am-5:00pm

Galw heibio Llun-Gwener 9:30am-12:30pm