Skip to main content

Cynnig Gofal Plant - Ceredigion - Gwasanaethau cymorth i deuluoedd


Beth rydym ni'n ei wneud

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gofal plant fforddiadwy sydd ar gael ac yn hygyrch yn golygu y gall rhieni weithio neu astudio, gan gefnogi ei hymdrechion i gynyddu twf economaidd, mynd i'r afael â thlodi a lleihau anghydraddoldeb.

Mae’r Cynnig Gofal Plant i Gymru yn cynnig hyd at 30 awr yr wythnos i blant 3 a 4 oed o Ddysgu Sylfaen (addysg gynnar) a gofal plant cofrestredig i rieni sy’n gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant. Mae'r 30 awr o gyllid yn cynnwys o leiaf 10 awr o Ddysgu Sylfaen a hyd at 20 awr o ofal plant yr wythnos.

Pwy ydym ni'n eu cefnogi

Mae’r Cynnig Gofal Plant yn agored i unrhyw deulu sy’n byw yng Nghymru, ar yr amod eu bod yn bodloni’r meini prawf cymhwyster canlynol:

Mae eich plentyn yn 3 - 4 oed;
Rhaid i rieni /cyplau sy'n cyd-fyw fod yn gweithio neu mewn addysg neu hyfforddiant mewn teulu dau riant, neu'r unig riant mewn teulu rhiant unigol;
Rhaid i chi ennill isafswm wythnosol sydd gyfwerth ag 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu’r cyflog byw cenedlaethol;
Neu fod yn derbyn budd-daliadau penodol, ar yr amod bod y rhiant arall yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd (gweler eithriadau isod);
Ennill llai nag uchafswm £100,000 y flwyddyn fesul rhiant;
Os oes gennych chi bartner sy'n byw gyda chi, mae'n rhaid iddyn nhw hefyd fodloni'r meini prawf.

Mae rhai eithriadau cymhwysedd yn berthnasol.

Manylion am wasanaeth gwasanaethau cymorth i deuluoedd

Iaith: Lleoliad cyfrwng Cymraeg a lleoliad cyfrwng Saesneg

  • Yn gallu rhoi cymorth arbenigol i deuluoedd plant ag anableddau / anghenion ychwanegol
    Mae’r Cynnig wedi ei lunio mewn ffordd sy'n rhoi ystyriaeth i'r rhwystrau y gall rhieni cymwys eu hwynebu wrth ddefnyddio’r elfen gofal plant yn benodol, gan gynnwys plant ag anghenion cymorth ychwanegol. Er mwyn sicrhau bod elfen gofal plant y Cynnig yn un cynhwysol i blant cymwys sydd angen cymorth ychwanegol, trafodwch gyda'ch Darparwr Gofal Plant am fwy o wybodaeth.  Cysylltwch i drafod anghenion eich plentyn(plant) ymhellach.
  • Mae gan staff perthnasol DBS cyfredol dilys?

Gwybodaeth gymdeithasol

Cyfeiriad

Gallwch chi anfon post yma:

Canolfan Rheidol Rhodfa Padarn
Llanbadarn Fawr
Aberystwyth
SY23 3UE



Dulliau cysylltu

Ffôn: 03000628628(03000628628)

Ffôn: 03000628628(03000628628)

Ffôn: 03000628628

Ebost: gofalplant@ceredigion.gov.uk(Uned Gofal Plant)

Cyfryngau cymdeithasol

Hygyrchedd yr adeilad

Amserau agor

Dydd Llun i ddydd Iau 8:45 a.m. i 5:00 p.m.
Dydd Gwener 8:45 a.m. - 4:30 p.m.

Back to top